Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Health and Social Care Committee

 

 

 

26 Mehefin 2014

Annwyl Gyfaill,

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymgymryd â gwaith craffu ar ôl deddfu er mwyn asesu'r modd y caiff Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ei roi ar waith a'i weithredu, yn benodol, drwy:

-        asesu i ba raddau y mae'r amcanion a bennwyd ar gyfer y Mesur yn cael eu cyflawni;

-        nodi a oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu neu arfer da y gellir ei rannu o wneud a gweithredu'r Mesur a'r is-ddeddfwriaeth a chanllawiau cysylltiedig; ac

-        asesu a yw'r ddeddfwriaeth wedi rhoi gwerth am arian, ac a fydd yn parhau i wneud hynny.

Wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, rydym yn bwriadu ystyried canfyddiadau perthnasol yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Er mwyn llywio'r ymchwiliad, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y cwestiynau a nodir yn Atodiad A i'r llythyr hwn.  Caiff yr ymatebion eu casglu ynghyd â'u dadansoddi, ac fe'u defnyddir i lywio'r sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y bwriedir ei chynnal yn nhymor yr hydref 2014.

Mae rhestr o'r bobl yr anfonwyd yr ymgynghoriad atynt ar gael yn Atodiad B i'r llythyr hwn.  Os ydych yn gwybod am unigolion neu sefydliadau eraill y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn ymateb i'r ymgynghoriad, dylech dynnu eu sylw at y llythyr hwn.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau.  Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno'n ysgrifenedig gan ei bod yn arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i Bwyllgor ar ein gwefan fel ei bod yn rhan o’r cofnod cyhoeddus.  Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fo’n berthnasol, yn unol â’u polisïau ynghylch gwybodaeth i'r cyhoedd.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i PwyllgorIGC@cymru.gov.uk. Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai ymatebion gyrraedd erbyn dydd Gwener 12 Medi 2014. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

Wrth baratoi eich sylwadau, cofiwch:

-        na ddylid defnyddio mwy na phum ochr A4;

-        dylid defnyddio paragraffau wedi’u rhifo;

-        (os byddwch yn anfon sylwadau electronig) byddai'n well defnyddio dogfennau Word, yn hytrach na ffeiliau pdf;

-        dylid canolbwyntio ar y cwestiynau yn Atodiad A i'r llythyr hwn.

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Yn gywir,

David Rees AC
Cadeirydd

Atodiad A

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymgymryd â gwaith craffu ar ôl deddfu ar y modd y caiff Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ei roi ar waith a'i weithredu, yn benodol, drwy:

-        asesu i ba raddau y mae'r amcanion a bennwyd ar gyfer y Mesur yn cael eu cyflawni;

-        nodi a oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu neu arfer da y gellir ei rannu o wneud a gweithredu'r Mesur a'r is-ddeddfwriaeth a chanllawiau cysylltiedig; ac

-        asesu a yw'r ddeddfwriaeth wedi rhoi gwerth am arian, ac a fydd yn parhau i wneud hynny.

Er mwyn llywio ei ymchwiliad, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y cwestiynau canlynol yr ydych yn teimlo y gallwch wneud sylwadau arnynt:

Thema 1 (cyflawni'r amcanion a bennwyd):
Rhoddwyd y Mesur ar waith yn ystod 2012.  Atebwch unrhyw rai o'r cwestiynau canlynol, yr ydych yn teimlo y gallwch wneud sylwadau arnynt, ynghylch effaith y Mesur.

a)       A yw gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol bellach yn rhoi mynediad gwell a chynt at gael asesiad a thriniaeth i bobl o bob oed?  A oes unrhyw rwystrau rhag cyflawni hyn?

b)       Beth fu effaith y Mesur ar ganlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol?

c)       Beth fu effaith y Mesur ar gynllunio gofal a chymorth i bobl mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd?

d)       A fu newid yn y ffordd y mae defnyddwyr gwasanaeth mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn cael eu cynnwys yn eu gofal a'u triniaeth?

e)       Pa effaith y mae'r ddarpariaeth yn y Mesur wedi ei chael ar allu defnyddwyr i fynd yn ôl a chael mynediad at wasanaethau eilaidd unwaith eto?  A oes unrhyw rwystrau rhag cyflawni hyn?

f)       I ba raddau y mae'r Mesur wedi gwella canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd?

g)       I ba raddau y mae'r Mesur wedi ymestyn y mynediad at eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol, a pha effaith a gafodd hyn ar ganlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau?  A oes unrhyw rwystrau rhag ymestyn mynediad at eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol?

h)       Pa effaith y mae'r Mesur yn ei chael ar fynediad grwpiau penodol i wasanaethau iechyd meddwl, er enghraifft, plant a phobl ifanc, pobl hŷn a grwpiau sy'n "anodd eu cyrraedd"?

i)        I ba raddau y mae'r Mesur wedi helpu i godi proffil problemau iechyd meddwl o fewn gwasanaethau iechyd a helpu i ddatblygu gwasanaethau sy'n fwy ystyriol o anghenion pobl a phroblemau iechyd meddwl?

j)        I ba raddau y bu'r broses o roi'r Mesur ar waith yn gyson yn ardaloedd y Byrddau Iechyd Lleol gwahanol?

k)       Ar y cyfan, a yw'r Mesur wedi arwain at unrhyw newidiadau yn safon y gwasanaethau a'r ffordd y maent yn cael eu darparu, ac os felly, sut?

Thema 2 (y gwersi yn sgil gwneud a gweithredu'r ddeddfwriaeth):
Aeth y Cynulliad ati i graffu ar y Mesur arfaethedig yn ystod 2010 ac fe'i rhoddwyd ar waith yn ystod 2012.  Atebwch unrhyw rai o'r cwestiynau canlynol, yr ydych yn teimlo y gallwch wneud sylwadau arnynt, ynghylch cyflwyno a gweithredu'r Mesur.

a)       Yn ystod y gwaith craffu, ehangwyd cwmpas y Mesur o wasanaethau oedolion i gynnwys gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc.  Pa oblygiadau, os o gwbl, a gafodd hyn ar weithredu bwriad y polisi a nodwyd yn y Mesur fel y'i cynigiwyd, ac fel y'i pasiwyd, gan y Cynulliad?

b)       Pa mor effeithiol oedd y trefniadau i ymgynghori â rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau yn ystod y gwaith o ddatblygu'r Mesur, craffu arno a'i weithredu?

c)       Pa mor effeithiol oedd y trefniadau i ymgynghori â rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau yn ystod y gwaith o ddatblygu, llunio a gweithredu'r is-ddeddfwriaeth a'r canllawiau cysylltiedig?

d        A fu digon o wybodaeth hygyrch am y Mesur a'r gwaith o'i weithredu ar gael i ddefnyddwyr a darparwyr gwasanaethau?

e)       Pa mor effeithiol oedd y gefnogaeth a'r canllawiau a roddwyd i ddarparwyr gwasanaeth o ran rhoi'r Mesur ar waith, er enghraifft, ynghylch yr amserlen drosglwyddo, targedau, rhaglenni staff ac ati?

f)       A gododd unrhyw faterion annisgwyl yn y broses o weithredu'r Mesur? Os felly, a gafwyd ymateb effeithiol iddynt?

g)       A oes unrhyw wersi y gellid eu dysgu, neu arfer da y dylid ei rannu, ar gyfer datblygu a gweithredu deddfwriaeth arall?

Thema 3 (gwerth am arian):
Gwnaeth Llywodraeth Cymru baratoi a gosod Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd â'r Mesur arfaethedig pan gafodd ei gyflwyno, gan gynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol.  Atebwch unrhyw rai o'r cwestiynau canlynol yr ydych yn teimlo y gallwch wneud sylwadau arnynt.

a)       A oedd y rhagdybiaethau a wnaed yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol am y galw am wasanaethau yn gywir?  A oedd unrhyw gostau annisgwyl, neu arbedion?

b)       A gafodd adnoddau digonol eu dyrannu i sicrhau bod modd gweithredu'r Mesur yn effeithiol?

c)       Beth fu effaith polisi Llywodraeth Cymru o neilltuo'r gyllideb iechyd meddwl ar ddatblygu gwasanaethau o dan y Mesur?

d)       Pa waith a wnaed i asesu'r gost o roi'r Mesur ar waith, ac i asesu'r buddion yn sgil y Mesur?

e)       A yw'r Mesur yn rhoi gwerth am arian, yn enwedig yn y cyd-destun economaidd ehangach?  Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich barn?


Atodiad B

Anfonwyd yr ymgynghoriad hwn at yr unigolion a'r sefydliadau canlynol.  Os ydych yn gwybod am unigolion neu sefydliadau eraill y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn ymateb i'r ymgynghoriad, dylech dynnu eu sylw at y llythyr hwn.


-          Academi’r Colegau Brenhinol yng Nghymru

-          Action for Advocacy

-          Adoption UK

-          Advocacy Matters Wales

-          Advocacy Support Cymru

-          Age Concern Morgannwg

-          Age Cymru

-          Anabledd Cymru

-          Anabledd Dysgu Cymru

-          Archwilydd Cyffredinol Cymru

-          Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

-          Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

-          Association of Child Psychotherapists

-          Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru

-          Awdurdodau lleol

-          Barnardo’s

-          British Association for Adoption and Fostering

-          Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Lleol

-          Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, Caeredin

-          Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, Glasgow

-          Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, Llundain

-          Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

-          Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

-          Coleg y Therapyddion Galwedigaethol

-          Comic Relief

-          Comisiynydd Plant Cymru

-          Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

-          Comisiynydd y Gymraeg

-          Conffederasiwn GIG Cymru

-          Cymdeithas Alzheimer

-          Cymdeithas Cenedlaethol Swyddogion Prawf

-          Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain

-          Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

-          Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

-          Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain

-          Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru)

-          Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru

-          Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (Cymru)

-          Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

-          Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu

-          Cymdeithas Seicolegol Prydain

-          Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

-          Cymdeithas Syndrom Down Cymru

-          Cymdeithas y Cleifion

-          Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg

-          Cymorth Cymru

-          Cynghorau Iechyd Cymuned

-          Cynghrair Cynhalwyr Cymru

-          Cynghrair Eiriolaeth Pobl Hŷn

-          Cynghrair Henoed Cymru

-          Cyngor ar Bopeth Cymru

-          Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol

-          Cyngor Gofal Cymru

-          Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

-          Cynhalwyr Cymru

-          Dementia UK

-          Diverse Cymru

-          Estyn

-          Ffederasiwn yr Heddlu

-          Fferylliaeth Gymunedol Cymru

-          Fforwm Gofal Cymru

-          Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan

-          Gofal Cymru

-          Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru

-          Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Gweithredu dros Blant

-          Gwasanaethau Eiriolaeth Sir y Fflint

-          Hafal

-          Llwybrau Newydd

-          MAP

-          Meddwl Conwy a Sir Ddinbych

-          Mencap Cymru

-          Mental Health Matters Wales

-          Mind Cymru

-          Nacro

-          PACE

-          Plant yng Nghymru

-          Rhwydwaith Eiriolaeth y DU

-          Rhwydwaith Gweithwyr Gofalwyr Cymru

-          Rhwydwaith Maethu Cymru

-          SCOPE Cymru

-          Sefydliad Bevan

-          Sefydliad Disability Can Do

-          Sense Cymru

-          Shelter Cymru

-          SNAP Cymru

-          Stonewall Cymru

-          Timau Troseddwyr Ifanc

-          Together

-          Tros Gynnal

-          Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

-          Y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

-          Y Coleg Nyrsio Brenhinol

-          Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

-          Y Cyngor Fferylliaeth Cyffredinol

-          Y Cyngor Meddygol Cyffredinol

-          Y Cynllun Eiriolaeth Iechyd Meddwl

-          Y Groes Goch Brydeinig

-          Y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr

-          Y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb

-          Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

-          Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant

-          Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar

-          Y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

-          Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr

-          Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

-          Young Minds

-          Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor

-          Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd